Croeso i wefan Cyngor
Glantwymyn
Mae Cyngor Cymuned Glantwymyn yn gyfrifol am ardal wledig a leolir yng nghanol Dyffryn Dyfi yn cynnwys pentrefi
Abercegir, Ceinws, Cemaes, Cwmlline, Darowen, Glantwymyn, Llanwrin a Thalywern. Mae'r gymuned yn cynnwys hen
blwyfi Llanwrin a Chareinion Fechan, rhan helaeth o blwyf Cemaes ac hanner gogleddol plwyf Darowen.
Mae'r Cyngor Cymuned yn cwrdd yng Nghanolfan Glantwymyn ar y Dydd Iau olaf ym mhob mis heblaw am Fis Awst a
Mis Rhagfyr.
Un o gyfrifoldebau'r Cyngor yw cynnal mynwentydd Eglwysi Darowen a Llanwrin ac mae'r Cyngor yn gwneud cyfraniad
ariannol tuag at gynnal mynwent Eglwys Cemaes, a mynwentydd capeli yng Nghemaes, Cwmlline a Thalywern. Mae'r
Cyngor hefyd yn gyfrifol am nifer o feinciau a chysgodydd bws o fewn ardal y gymuned.
Mae'r Cyngor yn cael cyfle i roi barn ar bob cynnig cynllunio o fewn ardal y gymuned ac mae'n chwarae rhan pwysig
yn adrodd ar nifer o wasanaethau a gweithgareddau y Cyngor Sir.